English


DATGANIAD I’R WASG: Ionawr 2018
Yn ystod Mai/Mehefin 2019, bydd NOVA Center for  the Performing Arts, mewn cyd-gynhrychiad gyda Rimrock Opera Foundation yn Billings, Montana, UDA yn perfformio Blodwen Joseph Parry(yr opera Gymraeg gyntaf) – yn Gymraeg! - gydag uwchdeitlau Saesneg. Bydd tocynnau ar werth o fis Medi 2018 – mae nifer y seddau’n gyfyng, felly’r cyntaf i’r felin … http://www.novabillings.org
 
Dyma fydd y cynhyrchiad llwyfan cyfan cyntaf o Blodwen yn America, gan ddefnyddio fersiwn siambr 2015 Dulais Rhys o’r gerddorfaeth. Am fwy o wybodaeth: Blodwen gan Joseph Parry

Joseph Parry

Pencerdd America

 

Dr. Joseph Parry (1841-1903), cerddor Cymreig-Americanaidd

Ganwyd 21 Mai 1841, Merthyr Tudful, Cymru

Bu farw 17 Chwefror 1903 (61 oed), Penarth, Cymru

Joseph Parry oedd y cerddor – os nad yr unigolyn – enwocaf yng Nghymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn gerddor amryddawn talentog, roedd Parry'n bennaf yn gyfansoddwr ond yr oedd hefyd yn enwog fel canwr, pianydd, organydd ac arweinydd. Ar hyd ei fywyd, yr oedd yn weithgar fel athro a beirniad poblogaidd. Yn ddiweddarach, daeth yn enwog fel newyddiadurwr, adolygydd, cyhoeddwr ac anerchydd cyhoeddus.

Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1865, derbyniwyd Parry i Orsedd y Beirdd fel ‘Pencerdd America'. Yn fwy anffurfiol, fe'i galwyd ‘Y Doctor Mawr' oherwydd ei gymwysterau cerddorol ac am iddo gael ei eilun-addoli gan ei gydwladwyr.

Mae bywyd Parry yn ymrannu'n chwe chyfnod: Merthyr Tudful (1841-54), Danville, Unol Daleithiau'r America (1854-68), Llundain (1868-71), Danville am yr ail dro (1871-74), Aberystwyth (1874-80), Abertawe (1880-1888), Caerdydd (1888-1903).

Yn gyfansoddwr toreithiog a beirniad treiddgar o gerddoriaeth eraill, roedd Parry'n anfodlon neu'n analluog i asesu'i gyfansoddiadau ei hun yn yr un modd. Neu fel y mynegodd ei gydoeswr ‘Alaw Ddu' (W. T. Rees, 1838-1904): ‘Pe bai wedi cyfansoddi llai, buasai wedi cynhyrchu mwy'.

Gellir gweld nifer cynyddol o gyfansoddiadau Parry ar wefan Llyfrgell Cerdd Petrucci.


Y ffotograff hwn yw'r unig un (y gwyddom amdano) o Joseph Parry a'i deulu, tua 1886. Rhes gefn, o'r chwith: Joseph Haydn Parry (1864-94), David* Mendelssohn Parry (1865-1915), William Sterndale Parry (1872-92). Rhes flaen o'r chwith: Annie Edna Parry (1873-c1940), Joseph Parry (1841-1903), Dilys Joseph Parry (1884-1914), Jane Parry née Thomas (1843-1918) – ganwyd yn Pennsylvania i rieni a ymfudodd o Flaenafon, Sir Fynwy [Gwent]

*Daniel, yn ôl ambell ffynhonnell.

 

Joseph Parry fel Cyfansoddwr / Catalog o Weithiau Joseph Parry

Llyfrau ac Erthylgau am Joseph Parry [Saesneg]

Anerchion am Joseph Parry [Saesneg]

Digwyddiadau Dathlu Parry